Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

Ebrill 2013

 

 


Adroddiad ar yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru)

1.    Ar 29 Ebrill 2013, cafodd Bil Llywodraeth, ‘Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru)’, ei gyflwyno yn y Cynulliad.   

2.    Ar 16 Ebrill 2013, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.9, i gyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, er mwyn iddo ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chyflwyno adroddiad arnynt.

3.    Yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, trefnodd y Pwyllgor Busnes amserlen i’r Pwyllgor ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chytunodd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 19 Gorffennaf 2013.

4.    Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 8 Tachwedd 2013, ar yr amod bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.